

Evan ein nai yw un o’n pageboys. Mae o’n edrych ymlaen gymaint i diwrnod ein priodas – edrych ymlaen i weld ei anti Ali fel tywysoges a edrych ymlaen mwy i wisgo siwt posh, er iddo gael siom ar ol sylwi nad siwt Ben-10 fydd o’n gwisgo!!
Ychwanegiad diweddaraf i’n teulu yw’n ail pageboy, sef ein nai Deio Sion. Efallai na fydd o’n gallu cerdded yn rhan o barti’r priodas, ond mae’n siwr y bydd digon i’w glywed ganddo!





Priodfab - Shwmai pawb! Reit, dyna ddigon ar y siarad sowthwelian yma – dwi di cal digon o stic am hynna dros y blynyddoedd diwethaf! A dwi’n siwr bydd mwy i ddod dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf – yn enwedig ar ol fy speech!