Shwmai pawb! Reit, dyna ddigon ar y siarad sowthwelian yma – dwi di cal digon o stic am hynna dros y blynyddoedd diwethaf! A dwi’n siwr bydd mwy i ddod dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf – yn enwedig ar ol fy speech!
Wel, dwi’n cymryd fod pawb yn nabod fi, neu ‘sa chi’m hyd yn oed ar y wefan ma, ond i’r rheini sydd yma i sgowtio am dalent, Owain ydw i, neu i’r rhanfwyaf o bobl y gogledd – Owain Sion. Un o hogia Bethel ydw i – born and bred (wel, os da chi’n cyfri ysbyty Dewi Sant – neu JJB bellach – lawr y lon fel Bethel), ond bellach yn byw yn Birchgrove ger Abertawe ers pedair mlynedd, a hynny am un rheswm penodol – y darpar-wraig, Alison. Dwi ddim am rhoi gormod o wybodaeth i ffwrdd i chi yma, rhag ofn i mi ddwyn rhanfwyaf o syniadau fy speech, ac yn enwedig i beidio migno tân speech y best man. Ond, wedi blynyddoedd o ganlyn, priodas amdani – fel da chi gyd wedi gesio sni’n feddwl, neu fysa na’m hyd yn oed gwefan yma i chi weld.

Erbyn y diwrnod mawr, dwi’n gobeithio y byddaf yn crynu dipyn llai nac yr oeddwn ar dop yr Empire State Building yn NY pan ofynais i Alison ‘mhriodi – neu o leia crynu llai na phan oeddwn yn talu am y fodrwy! Ond dwi’n edrych ymlaen yn arw erbyn hyn a gobeithio y gwela’i pawb yn fuan.
Tan y dydd,
Owain

Yn yr Adran yma cewch wybodaeth am y canlynol:

- Gwas
- Tywyswr

Amdanom Ni

Priodfab - Shwmai pawb! Reit, dyna ddigon ar y siarad sowthwelian yma – dwi di cal digon o stic am hynna dros y blynyddoedd diwethaf! A dwi’n siwr bydd mwy i ddod dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf – yn enwedig ar ol fy speech! mwy
Priodferch - Hi everyone! Don’t really know what to say here, I’m not as vocal as Owain when it comes to things like this! Owain did say he’d write this for me but I wasn’t all that keen on that idea. mwy
Cysylltu

Address – 2 Maes y Wawr, Birchgrove, Swansea. SA7 0HL

Email Alison – ali_fera@yahoo.com
Email Owain – owainsion@cym.ro

Website:
the-big-day.info/alisonandowain