Mae dewis y best man wedi bod yn dipyn o strach ma’n rhaid i mi ddeud, a hynny gan fod ambell i beth allan o fy rheolaeth. Aled Hefin, neu Al Hef, oedd y dewis gwreiddiol fel fy ngwas priodas, ond ma’ rhaid i mi gyfadda fod yr enw saesneg yn gwneud mwy o sens yn yr ystyr yma – best man neu “dyn gora”. Da ni ‘di bod yn ffrindia’ gora ers yn ddim o beth, a gan i ni fyw dros ffordd ein gilydd, da ni wastad ‘di neud popeth gyda’n gilydd – gan gofio peidio pasio’r lamppost – a roedda ni fwy fel brodyr na ffrindia. Al oedd yr unig un i wybod fy mhlania cyn mynd i NY, ar ol noson ar y Peroni yn y ty, er soniodd o’m gair amdano tan i mi’i ffonio o o NY i ddeud mod i wedi’i neud hi! Cradur, fe gafodd o lond pen gan pawb, yn bennaf gan mam a’i fam o am gadw’r gyfrinach, ond fel ffrind a “dyn gora”, gwyddwn y gallwn ddibynnu arno! Mae Al a Casi ei gariad bellach yn disgwyl eu babi cyntaf, sydd yn due tri diwrnod wedi’n priodas – dyna yw timing – ac felly ni fydd Al yn gallu bod yn was i mi ar y diwrnod mawr, ond gwn y bydd yn “ddyn gora” i mi am byth.
Ac felly, roedd rhaid chwilio am was arall. Gwn yn iawn pwy i droi at – Iolo a Dafydd (neu Sidge i’w ffrindia). Mae Iol a finna yn ffrindia da ers ysgol feithrin Bethel – ers dyddia biscits mw-mw a llefrith diwadd dydd! A thrwy’n dyddia yn yr ysgol gynradd ac uwchradd roedda ni wastad yn neud popeth gyda’n gilydd, er y gwahaniaeth yn ein diddordeba, gan fod Iolo yn dipyn o gerddor a finna yn mwy o sportsman! Aeth y ddau ohona ni i’r brifysgol yn Gaerdydd, a byw gyda’n gilydd o’r ail flwyddyn ymlaen, gan ffraeo droeon am ddiffyg diddordeb Iolo mewn ty taclus!! Er ambell i ffrae dibwys, roedd y brawdgarwch wastad yn gryfach – a welwyd yn amal wrth i’r ddau ohona ni syrthio i gysgu ochr yn ochr ar gadeiria Clwb Ifor ar nos sadwrn!
Yn y brifysgol yn Gaerdydd y cwrddais a Sidge gyntaf, a hynny ar ein noson cyntaf yn Senghennydd. Sidge oedd yr “hwntw” yn ein plith – yr unig un o’r gang yn llawn gogs! Bellach dwi’n gwbod yn union sut mae o’n teimlo. Ond, ma’n rhaid i mi gyfadda bo Sidge yn fwy o gog na hwntw fyd – yr unig beth sy’n ein gwahaniaethu yw’r acen, ac ar ol pedair mlynedd yn ein plith yn y brifysgol mae ei acen yn raddol troi yn ogleddol fyd. Ers y noson cyntaf yn nhafarn y brifysgol, roedd Sidge, Iolo a finna yn dallt ein gilydd i’r dim – fel rhyw 3 amigo o gwmpas y ddinas.
Mae’r tri amigo dal yn amigos, a gan fod Sidge a Iolo dal i fyw yn ninas fawr ddrwg Caerdydd, ‘da ni’n aml yn cyfarfod i roi’r byd yn ei le. Ac felly, Iolo a Sidge fydd fy ngweision ar y diwrnod mawr, a gwn y gallwn ddibynnu arnyn nhw i wneud yn siwr y bydd popeth yn mynd yn esmwyth ar y diwrnod, ac ar y stag do fyd (gobeithio!!)