2 Andrew sydd gen i fel tywyswyr, neu ushers, a dwi’n falch iawn i’r ddau gytuno i’r swydd a fy helpu ar y diwrnod mawr. I wneud yn siwr na fydd neb yn cymysgu rhwng y ddau, dyma ‘chydig o’u hanes.
Brawd mawr Alison yw Andrew, ac yn rhinsawdd swydd pob brawd, yn edrych allan dros ei chwaer. Ond ers i mi symud lawr i’r De, mae’r ddau ohona ni wedi bod yn ffrindiau da – yn aml yn mwynhau takeaway a rhannu ambell i gan neu ddwy ac hefyd mynd draw i’r Liberty i wylio’r Elyrch. Mae Andrew yn gefnogwr brwd o’r Elyrch – o gyfnod cyn i nhw fod yn yr Uwch Gynghrair, ac felly ddim yn glory hunter fel y rhan fwya o gwmpas Abertawe yn ddiweddar! Mae o’n berchen ar diced tymor yno, ac wrth lwc, ar ddydd ein priodas fydd Abertawe yn chwarae oddi cartref yn Blackburn, ac felly fydd Andrew yn hapus na fydd o’n methu gem cartref! Os bydd dydd ein priodas ffracsiwn gystal a’r play-off final yn Wembley mis Mai, dwi’n siwr neith Andrew fwynhau yn arw!
Partner Llinos fy chwaer yw Andrew, neu Andrew Mawr i pawb o gwmpas Bethel/Caernarfon. Dwi’n nabod Andrew ers blynyddoedd – ers gem cyntaf clwb pel-droed Bethel nol yn 2001. “Gentle Giant” yw Andrew yn ol rhai, gan fod ganddo wastad wen ar ei wyneb, ac yn barod i helpu unrhyw un, ond mae’n rhaid i mi adio mai oddi ar y cae pel-droed fydd hyn! Ar y cae dwi’n falch i mi fod ar yr un tim ag o trwy fy ngyrfa gyda Bethel – dwi’m yn meddwl ‘sni rhy keen i fod ar ochr arall un o dacls neu challenges Andrew!